SL(5)020 – Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 (Cyflwynwyd yn Saesneg yn unig)

Cefndir a Phwrpas

Mae'r Rheoliadau [Cyflwynwyd yn Saesneg yn unig] hyn yn cydgrynhoi Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 (O.S. 2010/675) [Cyflwynwyd yn Saesneg yn unig] a nifer o welliannau dilynol mewn un gyfres o reoliadau. Mae'r Rheoliadau hyn yn cynnal y drefn trwyddedu amgylcheddol a chydymffurfio a sefydlwyd ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau a diwydiannau. 

Gweithdrefn

Cadarnhaol

Craffu Technegol

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rh.S. 21.2 (ix): Mae'r Rheoliadau wedi'u gwneud yn Saesneg yn unig. Gwnaed y rheoliadau ar sail Cymru a Lloegr.

Mae'r Rheoliadau yn cynnwys diwygiadau yn y Gymraeg a wneir i rai darnau o is-ddeddfwriaeth sy'n gymwys i Gymru yn unig. Sylwer bod anghysondebau mewn rhai achosion rhwng y diwygiadau a wneir i fersiynau Cymraeg a Saesneg yr offerynnau hyn gan y Rheoliadau. Y rheswm am hyn yw bod deddfwriaeth ddiwygio flaenorol wedi diwygio'r testun Saesneg yn unig a heb ddiwygio testun Cymraeg yr offerynnau perthnasol. Roedd hyn yn golygu bod fersiynau Cymraeg a Saesneg yr offerynnau hyn yn arfer bod yn anghyson. Mae'r Rheoliadau hyn yn ceisio unioni'r anghysondeb hwnnw.

Craffu ar rinweddau

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

14 Tachwedd 2016